dDaniel 9:27; 11:31; Mathew 24:15; Marc 13:14 (gw. hefyd 1 Macabeaid 1:54)

Daniel 12

Rhan pedwar: y meirw yn dod yn ôl yn fyw

1Bryd hynny bydd Michael yn codi –
yr arweinydd mawr sy'n gofalu am dy bobl.
Bydd amser caled – gwaeth na dim
mae'r wlad wedi ei brofi erioed o'r blaen. a
Ond bydd dy bobl di yn dianc –
pawb sydd â'i henwau wedi eu hysgrifennu yn y llyfr.
2Bydd llawer o'r rhai sy'n gorwedd yn farw,
wedi eu claddu ym mhridd y ddaear, yn deffro –
rhai i fywyd tragwyddol
ac eraill i gywilydd bodolaeth ffiaidd. b
3Ond bydd y rhai doeth yn disgleirio fel golau dydd.
Bydd y rhai sy'n arwain y werin bobl i fyw mewn perthynas iawn â Duw
yn disgleirio fel sêr am byth bythoedd.

4“Rhaid i ti, Daniel, gadw'r neges yma'n gyfrinachol a selio'r sgrôl nes bydd y diwedd wedi dod. Bydd llawer yn rhuthro yma ac acw yn ceisio deall beth sy'n digwydd.”

Y diwedd

5Yna dyma fi, Daniel, yn gweld dau arall yn sefyll yna – un bob ochr i'r afon. 6Dyma un ohonyn nhw'n dweud wrth y dyn oedd mewn gwisg o liain, oedd erbyn hyn yn sefyll uwch ben yr afon, “Pryd mae'r pethau mawr yma'n mynd i ddigwydd?” 7A dyma'r dyn oedd mewn gwisg o liain ac yn sefyll uwch ben yr afon, yn codi ei ddwy law i'r awyr ac yn tyngu ar lw i'r Un sy'n byw am byth: “Mae am gyfnod, dau gyfnod a hanner cyfnod. c Wedyn pan fydd grym yr un sy'n sathru pobl gysegredig Duw wedi dod i ben bydd y diwedd wedi dod.”

8Roeddwn i wedi ei glywed, ond ddim yn deall. Felly dyma fi'n gofyn, “Syr, beth fydd yn digwydd yn y diwedd?” 9Atebodd, “Dos di, Daniel. Mae'r neges yma i'w gadw'n gyfrinachol ac wedi ei selio nes bydd y diwedd wedi dod. 10Bydd llawer o bobl yn cael eu puro, eu glanhau a'u coethi drwy'r cwbl. Ond bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall. Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy'n digwydd. 11O'r amser pan fydd yr aberthu dyddiol yn cael ei stopio a'r eilun ffiaidd sy'n dinistrio d yn cael ei godi yn ei le, mae mil dau gant naw deg o ddyddiau. 12Mae'r rhai sy'n disgwyl yn ffyddlon nes bydd mil tri chant tri deg pump o ddyddiau wedi mynd heibio wedi eu bendithio'n fawr.

13“Felly dos di yn dy flaen. Gelli fod yn dawel dy feddwl. Pan ddaw'r diwedd, byddi di'n codi i dderbyn dy wobr.”

Copyright information for CYM